Newyddion Diweddaraf:

Creu NEP Cymru – NEP yn sefydlu cwmni adnoddau Darlledu Allanol yng Nghymru

mwy...

Croeso i NEP Cymru OB

Mae'r tîm yn NEP Cymru wedi chwarae rhan flaenllaw mewn cyfres o ddigwyddiadau amlwg ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, o chwaraeon rhyngwladol i ddrama o'r safon uchaf. Os mai adnoddau neu griw sydd angen arnoch, rheolaeth prosiect a chyllido, stiwdios neu dryciau darlledu allanol fe all NEP Cymru sicrhau proses rwydd o'r cyfnod cynlluio cynharaf i'r diweddglo gorffenedig.


Mae ein tîm yn uchel ei barch o fewn y diwydiant - gyda’n fflyd bwerus, hyblyg a’r gefnogaeth gan NEP Broadcasting, fe allwn gynnig pob lefel o gyfleusterau stiwdio a Darlledu Allanol. Beth bynnag fo’ch gofynnion - digwyddiadau rhyngwladol yn gofyn am nifer o Dryciau Manylder Uwch neu Safonol i gamera sengl – dan arweiniaeth ein Rheolwr Gyfarwyddwr, Tony Cahalane, fe allwn sicrhau y bydd eich prosiect yn un esmwyth a llwyddianus.


Mae NEP Cymru yn ran o NEP Broadcasting, darparwr gwasanaethau teledu o Ogledd America, sy'n parhau i ehangu fel grŵp cyfryngau rhyngwladol ac yn arwain y farchnad ryngwladol gyda dros 500 o weithwyr drwy'r byd. Gyda mwy na 30 o flynyddoedd o brofiad rhyngom fe all y grŵp gynnig y gwasanaeth cynhyrchu gorau posib yn y byd sy’n ein caniatau ni yn NEP Cymru i'ch cynorthwyo a’ch cynghori mewn nifer o feysydd.


Rydym yn gwmni Cymreig sy'n gweithio'n agos gyda'n cwsmeriaid ac yn elwa o gefnogaeth gref a sgiliau ein staff a'n gweithwyr llawrydd. Gall NEP Cymru gynnig un ateb syml i'ch holl anghenion cynhyrchu.